Ers y 1980au, mae poblogaeth y fôr-wennol fechan ym Mhrydain wedi gostwng 50% oherwydd y gwaith datblygu ar eu cynefin nythu arfordirol, tarfu gan bobl a lefel uchel o ysglyfaethu. O ganlyniad, mae sawl nythfa yn cael eu rheoli’n eang er mwyn gwarchod niferoedd y fôr-wennol fechan ar draws Prydain.

Yng Ngronant y mae unig nythfa fagu’r fôr-wennol fechan yng Nghymru. Oherwydd gwaith caled wardeiniaid a gwirfoddolwyr lleol, mae wedi dod yn un o’r nythfeydd mwyaf llwyddiannus ar Ynysoedd Prydain.  Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych, gyda chymorth gwirfoddolwyr ac arbenigwyr adar ymroddedig, yn adeiladu ffens amddiffynnol o amgylch y nythfa, yn wardeinio’r safle bob dydd, dychryn creaduriaid ysglyfaethus a lleihau unrhyw darfu, siarad gydag ymwelwyr a defnyddwyr y traeth, gan gylchu a monitro’r adar a chadw golwg ar yr hyn sy’n digwydd. Gwneir hyn bob blwyddyn ar gyfer y cyfnod bridio, sy’n para o fis Ebrill tan Awst.

Gallwch ddysgu am yr adar bach arbennig yma a’u cartref yng Ngronant gyda’r saith pecyn dosbarth yma sy’n llawn hwyl a diddordeb i rai CA2. Mwynhewch!

Adnoddau dysgu

Isod mae casgliad o adnoddau dwyieithog sy’n cyd-fynd â’r animeiddio.

Ein Partneriaid